top of page
Mae dyddio drwy flwyddgylchoedd neu ddendrocronoleg yn unigryw o ran y gallu i bennu dyddiadau calendr i arteffactau pren. Drwy gydweddu ystadegol gofalus o batrymau lled cylchoedd, mae dendrocronoleg wedi gweddnewid archaeoleg wyddonol a phaleohinsoddeg. Serch hynny, mae ei defnydd wedi’i gyfyngu gan rywogaethau coed, tarddle a hyd segmentau.
Bydd techneg ddyddio newydd yn cael ei datblygu i ddarparu dyddio trachywir gyda hyder ystadegol meintioledig, sef dendrocronoleg isotopau, sy’n cyfuno dangosyddion isotopig lluosog a lledau blwyddgylchoedd. Gan fod isotopau sefydlog yn arddangos cryfder signal gofodol-amserol uwch a gwell cydlyniad rhyng-rywogaethol na lled cylchoedd, mae potensial sylweddol i chwyldroi dyddio samplau anodd: er enghraifft lle mae rhywogaeth, hyd segmentau neu ddyblygu cronoleg yn gwneud dendrocronoleg arferol yn heriol.
​
Caiff y prosiect (REF:RPG-2014-327) ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Cafodd y gymdeithas ei sefydlu gan William Hesketh Lever, sylfaenydd Lever Brothers. Ers 1925 mae’r Ymddiriedolaeth wedi darparu grantiau ac ysgoloriaethau ar gyfer ymchwil ac addysg. Heddiw mae’n un o ddarparwyr mwyaf cyllid ymchwil i bob pwnc yn y Du, gan ddosbarthu tua £80m y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth, ewch i www.leverhulme.ac.uk
Y Tîm Ymchwil
Christopher Ramsey
Danny McCarroll
Giles H.F. Young
Darren Davies
Daniel Miles
Neil Loader
Offer Newydd ar gyfer Archaeoleg Wyddonol: Dendrocronoleg Isotopau
bottom of page