top of page

Darganfod y dull newydd o astudio’r gorffennol

Deilen Derwen

X 10

X 20

Trosolwg o isotopau

Nid dim ond mewn defnyddio coedgylchoedd ar gyfer dyddio y mae’n tîm ymchwil yn arbenigo, ond hefyd mewn ail-lunio hinsawdd y gorffennol. Nid y coedgylchoedd yn unig y byddwn yn eu defnyddio, ond hefyd cemeg y pren, yn benodol yr isotopau sefydlog (anymbelydrol) carbon ac ocsigen. Mae’r isotopau carbon yn amrywio’n bennaf yn eu hymateb i gyfanswm heulwen yr haf a’r isotopau ocsigen yn amrywio i lawiadau’r haf.

 

Mae’r cydweddiad isotopig rhwng coed yn llawer cryfach nag ar gyfer lled cylchoedd. Golyga hyn ei bod hi’n bosibl defnyddio patrwm blynyddol amrywiant isotopig i ddyddio arteffactau pren gyda llawer llai o gylchoedd nag sy’n angenrheidiol ar hyn o bryd. Hefyd, gan mai dim ond perthynas wan sydd rhwng lled cylchoedd a’r ddau isotop, pan fydd y tri dangosydd yn adnabod yr un dyddiad yna mae hyder yn y cydweddiad yn gwella’n sylweddol.

 

Ar y funud nid yw’r dull dyddio hwn ar gael yn gyffredin gan nad oes unrhyw feistr gronolegau ar gyfer isotopau yn y DU y gellir eu defnyddio i gydweddu samplau heb eu dyddio. Dyma fyddwn ni’n ei ddarparu i’r gymuned drwy gyfrwng y prosiect hwn.

Paratoi creiddiau

Gwaith Labordy

Byddwn yn defnyddio digreiddwyr arbennig i dynnu samplau o goed byw ac o hen adeiladau. Nid yw samplo’n achosi niwed gwael i’r coed nac yn difrodi’r adeiladau.  Yn aml, byddwn yn casglu samplau o adeileddau sy’n destun ymchwiliad archeolegol i sefydlu eu hoedran a hanes eu hadeiladu. Ar gyfer pren hen iawn, cannoedd neu filoedd o flynyddoedd oed, gallwn samplo boncyffion sydd wedi eu cadw mewn mawnogydd a gwaddodion.

Adeiladau

Coed byw

Gwaddodion

bottom of page