top of page

Cymerwch  ran

 

Os oes gennych chi hen goed derw yn tyfu ar eich tir, neu’n agos at eich cartref, os ydych chi’n gweithio gyda hen goedydd mewn dendrocronoleg, adfer adeiladau, neu efallai’n ffermio mewn ardal lle mae derw cors yn cael ei ganfod yn rheolaidd, byddai gennym ddiddordeb mewn clywed gennych chi. 

 

Weithiau bydd hen goed yn marw neu hen adeiladau’n troi’n adfeilion. Os oes gennych chi goed wedi eu dymchwel neu brennau adeiladu y credwch y gallen nhw  fod yn ddefnyddiol, cysylltwch â ni. Mae’n bosib y byddwn yn gallu defnyddio’r hen ddeunyddiau hyn i ddatblygu ein cronolegau, i ddyddio’r pren ac i ddysgu am amgylcheddau’r gorffennol.

 

Rydym yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau estyn allan i’r cyhoedd ac rydym yn cynnig siarad mewn ysgolion a grwpiau archaeoleg a gwyddoniaeth lleol. Cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth.

Thanks you for you email, we will contact you as soon as possible.

bottom of page